top of page

Meysydd Ymarfer

Isod, fe gewch amlinelliad o'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.
Trawsgludo

Mae ein cyfreithwyr Trawsgludo cymwysedig ac uchel eu parch yn meddu degawdau o brofiad ac yn hyfedr ym mhob agwedd o drawsgludo preswyl a masnachol.

 

Yr ydym wedi ein derbyn yn aelod o Gynllun Safon Trawsgludo Eiddo Cymdeithas y Gyfraith, felly mae gennych y sicrwydd y bydd eich trafodiad mewn dwylo hynod o ddiogel a chymwys.

 

GWERTHU - Os ydych yn ystyried symud tŷ, cysylltwch â ni a byddwn yn fwy na pharod i gynorthwyo a gwerthu eich eiddo. Mae gennym berthynas ardderchog gyda gwerthwyr tai lleol ac yr ydym yn barod i'ch tywys trwy'r broses o'r eiliad rydych yn derbyn cynnig, hyd at ei gwblhau.

 

PRYNU - Yr ydym ar Baneli Trawsgludo y brif fenthycwyr morgeisi, felly gallwn weithredu ar eich rhan ynglyn â benthyca ar gyfer eich prynu. Yr ydym yn cynnig cyngor adeiladol o ran arolygon a gallwn drafod y chwiliadau perthnasol a fydd yn ofynnol.

 

Bydd ein cyfreithwyr yn sicrhau eu bod ar gael trwy gydol y broses i esbonio neu eich helpu gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon a all fod gennych.

 

Edrychwn ymlaen at eich cynorthwyo yn y trafodiad pwysicaf y mae'r rhan fwyaf ohonom yn debygol o'u gwneud.

 

 

Cyfraith Tuelu

 

Mae cymryd y cam i ddod o hyd i gyngor cyfreithiol ynglyn â phroblem deuluol neu dor berthynas yn gallu bod yn boenus a thrallodus.

 

Mae gan ein cyfreithwyr y profiad a'r arbenigedd i'ch tywys drwy un o brofiadau mwyaf trawmatig mewn bywyd; tra'n bod yn gynnes, yn sensitif ac yn cydymdeimlo â'ch anghenion penodol.

 

Yr ydym yn cynnig cyngor adeiladol a synhwyrol yn y lle cyntaf er mwyn datrys unrhyw anghydfod heb ymyrraeth y llysoedd. Fodd bynnag, pe bai hynny yn amhosib, byddwn yn rheoli eich achos yn sensitif ac yn effeithlon ac yn bob amser yn ymdrechu i gyflawni'r canlyniad gorau posib.

 

Gallwn eich helpu gyda:

  • Ysgariad a Thor Berthynas;

  • Rhannu asedau ar gyfer cyplau priod a di-briod;

  • Materion Plant gan gynnwys materion yn ymwneud a threfniadau preswyl a chyswllt;

  • Cam drin a Thrais yn y cartref;

  • Cytundebau cyn-priodi a byw gyda'ch gilydd;

  • Cyngor ar brynu cartref gyda'ch gilydd.

 

Ewyllysiau a Phrofiant

 

Ewyllysiau - Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd gwneud ewyllys. Fel cyfreithwyr, yr ydym yn cynghori pawb i wneud ewyllys er mwyn sicrhau bod eich asedion yn cael eu dosbarthu yn ôl eich dymuniad. Gall ein cyfreithwyr ddrafftio ewyllys i chi gan wneud yn siwr bod eich dymuniadau a'ch amgylchiadau ariannol yn cael eu hystyried bob amser. 

 

Profiant - Mae colli rhywun annwyl yn gyfnod anodd iawn mewn bywyd. Mae ein cyfreithwyr Profiant sympathetig yn darparu gwasanaeth cynnes, cyfeillgar a thrylwyr tra'n gweinyddu ystâd yr ymadawedig. Byddwn yn eich tywys a'ch cefnogi drwy gydol y broses gyfan ac yn gweithio'n gyflym ac yn effeithlon i leihau'r straen o ddelio â materion eithaf cymhleth yn ystod profedigaeth.

Atwrneiaeth Arhosol (LPA)

 

Dylem i gyd ystyried beth fyddai'n digwydd i'n hasedau a phwy fydd yn rhedeg ein materion ariannol pe baem yn analluog oherwydd salwch meddwl, strôc, damwain neu Dementia sy'n gysylltiedig â henaint. Mae Atwrneiaeth Arhosol (LPA ) yn eich galluogi i benodi aelod o'ch teulu neu ffrind i ddelio â'r materion hyn ar eich rhan pe bai un o'r sefyllfaoedd hyn yn codi. Yn yr un modd, efallai y byddwch yn dymuno rhoi awdurdod i wneud penderfyniadau am eich iechyd a lles i rywun pan nad ydych bellach yn gallu gwneud hynny eich hun.

 

Os ydych yn teimlo na allwch chi neu aelod o'ch teulu ddelio a materion ariannol neu materion yn ymwneud â lles personol, gallwn eich helpu gyda'r broses o wneud cais i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol gyda Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer materion eiddo ac ariannol neu Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer materion iechyd a lles. 

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni. Byddwn yn fwy na pharod i'ch cynorthwyo. 

Tenantiaethiau

​

Yr ydym yn darparu cyngor cyfreithiol i landlordiaid a thenantiaid ynglÅ·n Ã¢ mangreoedd masnachol (eiddo amaethyddol a diwydiannol, siopau a swyddfeydd) ac Eiddo Preswyl gan gynnwys cytundebau tenantiaeth tymor byr a hir.

 

Pe baech yn landlord neu'n denant, gallwn roi cyngor a pharatoi'r prydlesi perthnasol a chytundebau tenantiaeth ar gyfer eich anghenion. Yr ydym yn cynnig cyngor arbenigol ar bob agwedd o brydlesi a thenantiaethau gan gynnwys materion diogelu blaendal tenantiaeth a gallwn gynorthwyo gyda estyniadau prydles neu gwerthu a phrynu eiddo prydlesol.

 

 

Llys Gwarchod

​

Weithiau gall rhywun yr ydych yn gofalu amdanynt golli'r gallu meddyliol i ddelio â'u materion a materion ariannol eu hunain. Os nad oes Pwer Atwrnai ( LPA) yn e'i le, gall Hugh Williams Mab a'i Gwmni eich cynghori ar sut i'w cynorthwyo i reoli eu materion.

 

Mewn amgylchiadau fel hyn, fe fydd angen i rywun (fel arfer un o'r pethnasau agosaf) i wneud cais i'r Llys Gwarchod am awdurdod i reoli eu materion ariannol. Gelwir berson a awdurdodir gan y Llys yn 'Ddirprwy'.

 

Gallwn eich cynghori ynglŷn â'r wybodaeth fydd ei hangen gan y Llys ac yn yn sicrhau bod y dogfennau cywir yn cael eu cwblhau wrth wneud y cais.

 

Pe bai'r Llys yn penderfynu eich penodi fel Dirprwy, byddwn hefyd yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau.

 

Gallwn hefyd yn ymrwymo i gwblhau gwiriad budd-daliadau lles i sicrhau bod safbwynt y cleient yn cael ei gwasanaethu yn y ffordd orau posib.

 

 

Amaeth

​

Wedi ein lleoli yng nghanol cymuned amaethyddol, yr ydym yn gweithredu ar gyfer ystod eang o gleientiaid amaethyddol gan gynnwys ffermwyr, tirfeddianwyr a phobl cefn gwlad yn gyffredinol. Pe baech yn fusnes ffermio neu bartneriaeth, fferm fawr neu fach, neu dyddyn, gallwn eich cynghori yn eich materion a phersonol.

Gallwn eich helpu gyda:

​

  • Gwerthiant Fferm a phryniannau;

  • Prynu a gwerthu eiddo amaethyddol mewn arwerthiant;

  • Tenantiaethau Amaethyddol, tenantiaethau busnes fferm a chytundebau pori;

  • Materion hela, saethu a physgota;

  • Hawddfraint a hawliau tramwy.

Ymddiriedolaethau

​

​Fe fydd ein cyfreithwyr arbenigol yn eich helpu chi wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol ac yn eich cynorthwyo i ddiogelu eich diogelwch ariannol. Ein nod yw sicrhau trosglwyddiad esmwyth o gyfoeth o un genhedlaeth i'r llall, ac yn eich galluogi i gael cymaint o ddewis a rheolaeth â phosib dros eich materion ariannol.

 

Mae gan ein cyfreithwyr uchel eu parch arbenigedd yn y meywsydd hyn. Byddwn yn gwrando arnoch ac yn cymryd yr amser i ddeall eich gofynion er mwyn darparu atebion arloesol, wedi'u teilwra i'ch holl anghenion cynllunio ystadau.

 

Gallwn eich helpu gyda:

  • Ymddiriedolaethau;

  • Ewyllysiau;

  • Treth etifeddu;

  • Atwrneiaeth Arhosol;

  • Profiant a gweinyddu ystadau (gan gynnwys ystadau lle bo anghydfod yn eu cylch).​

 

Ymgyfreitha Cyffredinol

​

Gall unrhyw sefyllfa, lle rydych yn cael eich hun mewn anghydfod gyda pharti arall, yn arwain at ymgyfreitha. Gall ymgyfreitha ddeillio o ystod eang o weithgareddau a sefyllfaoedd, gyda'r mwyawfrif yn cyrraedd y llys.

 

Gall Ymgyfreitha codi yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • Esgeulustod proffesiynol;

  • Cwmni a masnachol anghydfodau;

  • Adennill dyledion;

  • Anghydfodau partneriaeth;

  • Hawlio contract;

  • Hawliadau Profiant gynhennus;

  • Hawliadau niwsans;

  • Gwaharddebau;

  • Anghydfodau tir a ffiniau;

  • Anghydfodau Defnyddwyr;

  • Anghydfodau landlord a thenant.

 

Gallwn eich cynghori ar eich safle yn y gyfraith, ac a yw eich achos yn gryf neu beidio.

 

Gallwn hefyd eich cynghori ynghylch eich opsiynau eraill, sef cyfryngu neu gyflafareddu. Weithiau y gall rhain fod yn fwy addas na ymgyfreitha yn eich amgylchiadau.

bottom of page