top of page

Cyfreithwyr

 

Eira Rees Jones Cyfarwyddwraig

 

Ar ôl astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Bryste a Choleg y Gyfraith Guildford, daeth Eira yn Gyfreithiwraig ym 1970 ac ymunodd ar unwaith â'r cwmni teuluol a sefydlwyd ym 1937 gan ei thaid Hugh Williams. Ei fab Richard Williams (tad Eira) oedd yr uwch-bartner ar y pryd, ac yn ei thro cymerodd Eira dros y practis yn dilyn ei ymddeoliad. I syndod a llawenydd Eira, penderfynnodd ei merch Mair i ymarfer y gyfraith, ac yn awr maen nhw'n rhedeg ein dwy swyddfa yn Llandeilo a Llanymddyfri.

 

Mae gwybodaeth ac arbenigedd Eira, wedi eu cronni dros y 45 mlynedd diwethaf ac yn enwedig mewn materion trawsgludo a phrofiant, o werth enfawr i'r busnes, ac mae hi'n bwriadu parhau i weithio ochr yn ochr ag aelodau eraill y tîm cyfreithiol hyd y gellir rhagweld.

Mair Hickman Cyfarwyddwraig

 

Mair, gor-wyres y sylfaenydd Hugh Williams ydy'r bedwaredd genhedlaeth o gyfreithwyr yn ei theulu. Ar ôl mynychu ysgol Tregib, lle bu'n ddirprwy brif ferch, aeth hi i Brifysgol Lerpwl a Choleg y Gyfraith Caer, lle ennillodd ei LL.B a LPC .

 

Dychwelodd Mair i Landeilo yn 2001 i ymuno â'r cwmni; yn dod yn yn gyfreithwraig gymwysedig yn 2003. Mae hi'n brofiadol ym mhob agwedd o drawsgludo preswyl, masnachol ac amaethyddol a hefyd yn arbenigo mewn Prydlesi a gwaith Landlord a Thenantiaid. 

 

Mae Mair yn aelod gweithgar o Gymdeithas y Gyfraith ar lefel lleol a chenedlaethol, a yn cyn aelod o'r Pwyllgor Cymru.

 

Tu allan i'r gwaith, mae Mair yn hynod o brysur gyda'i thri o blant ifanc, ond mae hi'n bobydd brwd ac yn mwynhau'r theatr a chymdeithasu.

Nia Morgan Cyfreithwraig

Mae Nia, Cyfreithrwraig gymwysedig ers 1994, wedi bod gyda Hugh Williams Mab a'i Gwmni ers 2001 ac yn arbenigo mewn Ewyllysiau, Profiant a Thrawsgludo preswyl. 

 

Yn frodor o Borthmadog, Gwynedd, graddiodd Nia yn y Gyfraith a'r Ffrangeg o Brifysgol Caerdydd ac arhosodd yno i gyflawni ei hyfforddiant cyfreithiol gyda Hugh James.

 

Mae hi bellach yn byw yn Llandeilo ers 2000 gyda'i gŵr a thri o blant. Mae Nia yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn gwbwl gyfforddus i gyfathrebu a gweithio yn y ddwy iaith. Lleolir Nia yn ein swyddfa yn Llandeilo.

Siân Eleri Jones Cyfreithwraig

 

Wedi graddio yn y Gyfraith o Aberystwyth, Mae gan Siân dros 15 mlynedd o brofiad mewn Cyfraith Teulu ac Ymgyfreitha, gan gynnwys materion ariannol ac eiddo cymhleth, anghydfodau cyd-fyw a materion plant.

 

Mae Siân yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, sydd yn galluogi cleientiaid i drafod eu problemau yn yr iaith o'u dewis.

 

Lleolwyd yn ein swyddfa yn Llandeilo, mae Siân bob amser yn darparu dull adeiladol a chydymdeimladol at yr anhawsterau y mae'n rhaid i deuluoedd weithiau wynebu.

Catrin James Cyfreithwraig

 

Ar ôl astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Durham gweithiodd Catrin am nifer o flynyddoedd yng ngogledd Cymru ac yng ngogledd Lloegr lle cafodd brofiad helaeth mewn eiddo a gwaith cleientiaid preifat.

 

Ganwyd a magwyd ar fferm y teulu ym Myddfai, mae Catrin bellach yn byw yn lleol gyda'i gŵr a dau o blant.

 

Mae Catrin yn aelod o Gymdeithas Cyfraith Amaethyddol a Chymdeithas Ymarferwyr Ymddiriedolaethau ac Ystadau (STEP) ac aelod cyswllt o Gyfreithwyr i'r Henoed (SFE).

 

Mae hi'n ymdrin ag Ewyllysiau, Profiant, Ystadau a chynllunio a gweinyddu olyniaeth, gan gynnwys Llys Gwarchod a Phwerau Atwrnai Parhaol.

 

 

Dorian Price Evans Cyfreithiwr

 

Mae gan Dorian gefndir mewn gwyddoniaeth ar ôl astudio Microbioleg ym Mhrifysgol Bryste, ac fel Microbiolegydd mae wedi gweithio'n wirfoddol gyda'r elusen ryngwladol VSO (Voluntary Service Overseas) yn Nepal.

 

Wedi iddo ailhyfforddi fel Cyfreithiwr yn 2004, ymunodd Dorian â Hugh Williams Mab a'i Gwmni yn 2014, ac mae'n awr yn gweithio yn ein swyddfa yn Llanymddyfri.

 

Er bod Dorian yn brofiadol ym mhob agwedd o faterion Cyfraith Teulu, mae hefyd yn arbenigo mewn trawsgludo preswyl.

 

Mae Dorian yn byw yn Llandeilo gyda'i wraig a dau o blant.

bottom of page