top of page
Ein Cwmni
Sefydlwyd Hugh Williams Mab a'i Gwmni, Cyfreithwyr yn 1937 ac ers y cyfnod hwnnw, yr ydym wedi darparu cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol moesegol a phroffesiynol i bobl Llandeilo a'r fro. Mae'r cyfarwyddwyr presennol (isod) yn wyres ac yn orwyres y sylfaenydd Mr. Hugh Williams ac maent yn parhau i gadw at yr un egwyddorion o broffesiynoldeb a moeseg y mae'r cwmni wastad wedi sefyll.
Mae ein busnes teuluol yn gweithio o'n swyddfeydd yn Llandeilo a Llanymddyfri ac yn darparu gwasanaeth cyfeillgar, proffesiynol ac effeithiol ym meysydd canlynol y Gyfraith:
-
Trawsgludo;
-
Ewyllysiau a Phrofiant;
-
Ysgariad a Chyfraith Teuluol;
-
Ymddiriedolaethau;
-
Tenantiaethau preswyl, masnachol ac amaethyddol;
-
Ymgyfreitha Cyffredinol.


Mae'r holl gyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol yn cael eu gwneud gan gyfreithwyr cymwysedig ac mae ein gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg .
I gyfarfod ag aelodau'r tîm cyfreithiol, cliciwch 'CYFREITHWYR' isod .
LLANDEILO
LLANYMDDYFRI

''Cwmni teuluol cyfeillgar sydd yn darparu gwasanaeth proffesiynol gyda moeseg yn ganolog'' - Enw a Chyfeiriad ar gael
bottom of page