top of page
Ein Pobol

 

Sefydlwyd Hugh Williams Mab a'i Gwmni, Cyfreithwyr yn 1937. Y mae'r cyfarwyddwyr presennol yn wyres ac yn orwyres y sylfaenydd Mr. Hugh Williams.

 

Mae gan ein cwmni chwech cyfreithwr cymwysedig, sydd yn cynnig ystod eang o arbenigedd. Yr ydym yn gwasanaethu'r fro o'n prif swyddfa yn Llandeilo a'n swyddfa gangen yn Llanymddyfri. 

 

Am wybodaeth bellach cliciwch 'Mwy'

Gwasanaethau

 

Yr ydym yn fusnes teuluol, sydd yn cynnig gwasanaeth proffesiynol, cyfeillgar ac effeithlon ym meysydd canlynol y gyfraith: 

 

  • Trawsgludo;

  • Ewyllysiau a Phrofiant;

  • Ysgaru a Chyfraith Teuluol;

  • Ymddiriedolaethau;

  • Tenantiaethau preswyl, masnachol ac amaethyddol;

  • Ymgyfreitha cyffredinol.

 

Am wybodaeth bellach am ein gwasanaethau, cliciwch 'Mwy'

Newyddion a 'Be Sy' 'mlaen...'

SYLW - PRYNU EIDDO YNG NGHYMRU?

 

Ar 1af Ebrill 2018, y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol am gasglu Treth Trafod Tir.

 

Ewch i https://beta.gov.wales/land-transaction-tax-calculator i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio arnoch chi.

 

 

---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

SYLW - LANDLORDIAID A CHYNRYCHIOLWYR YN Y SECTOR RHENTU PREIFAT YNG NGHYMRU

 

Ers hydref 2015, mae'n ofynnol i Landlordiaid ac Asiantau sy'n gweithredu yn y sector rhentu preifat gael eu hyfforddi a'u trwyddedu i rentu allan. Fe fydd y drwydded a roddwyd yn parhau am bum mlynedd ac fe fydd yn rhaid i'r holl ddeiliaid y drwydded  gydymffurfio â Chod Ymarfer Gosod a Rheoli.

 

Mae'n rhaid i Landlordiaid gael eu trwyddedu neu y mae'n rhaid trefnu i Asiant Gosod trwyddedig i wneud gweithgareddau ar eich cyfer chi. 

 

Os ydych yn Landlord neu os ydych yn ystyried rhentu allan, cysylltwch Ã¢ ni .

 

-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------

SYLW - TWYLL EIDDO

 

Eich ty, yn ôl pob tebyg, yw eich ased mwyaf gwerthfawr, felly mae'n bwysig gwneud beth bynnag y gallwch i'w warchod rhag y risg o dwyll.

 

Mae Twyll Eiddo yn digwydd pan fydd twyllwyr yn ceisio 'dwyn​​' eich eiddo, yn aml drwy esgus bod yn chi ac yna gwerthu neu forgeisio eich eiddo ac yn eich gadael chi i godi'r darnau.

 

Gallwch gymryd camau i ddiogelu eich eiddo rhag cael ei werthu neu forgeisi'n dwyllodrus.

 

Rydych yn fwy tebygol o gael eich twyllo os:

  • mae eich hunaniaeth wedi ei ddwyn;

  • rydych yn rhentu eich eiddo;

  • rydych yn byw dramor;

  • mae'r eiddo'n wag;

  • nid yw'r eiddo wedi'i forgeisio;

  • nad yw'r eiddo wedi ei gofrestru gyda'r Gofrestrfa Tir.

 

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon neu os hoffech gyngor ar ddiogelu eich eiddo.

Neu, ewch ar wefan y Llywodraeth http://www.gov.uk/propertyfraud

 

 

Llandeilo

​

​01558 823417

​

Hugh Williams Mab a'i Gwmni

81, Stryd Rhosmaen,

Llandeilo,

Sir Gaerfyrddin,

SA19 6HD

​​

Ebost

 

llandeilo@hughwilliamslaw.co.uk

a hefyd yn nhy Alma, Llanymddyfri...

​

​​​​​​​​​

Llanymddyfri

​

​01550 721500

​

Hugh Williams Mab a'i Gwmni

1, Y Stryd Uchel,

Llannymddyfri,

Sir Gaerfyrddin,

SA20 0PU

​​

Ebost

 

llandovery@hughwilliamslaw.co.uk

Noddwyr Balch
bottom of page